Ydych chi'n achos da? Chwilio am ffordd i godi arian ar-lein?

Darganfod sut mae Loto Powys yn codi arian ar gyfer achosion da yn eich cymuned leol

❤️

Mynnwch eich tudalen loteri eich hun

Dim costau sefydlu na ffioedd gweinyddol - llenwch ein ffurflen ar-lein syml a byddwn yn sefydlu eich tudalen loteri addasadwy eich hun.

💸

Codi arian

Bydd 60% o werthiannau tocynnau yn mynd at achosion da - 50% i'ch achos a 10% i gronfa ganolog. Anfonir eich arian yn syth i'ch cyfrif bob mis.

🎉

Dim costau, byth

Ydym, wir, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw beth i ni byth. Dim gweinyddu, dim ffioedd sefydlu - dim ond ffordd wych o godi arian at eich achos.

🎁

Gwobrau gwych ar gyfer eich cefnogwyr

Bydd pob tocyn yn rhoi cyfle 1 mewn 50 i ennill prif wobr o £25,000!

📢

Help marchnata

Byddwn yn darparu taflenni a phosteri penodol, dolenni Facebook, awgrymiadau defnyddiol, canllawiau a llawer mwy.

📊

Rhoi gwybod

Yn ogystal â diweddariadau e-bost wythnosol, gallwch fewngofnodi a gweld data tocynnau a chefnogwyr mewn amser real.

Mae Loto Powys yn ffordd effeithiol a hwylus i'ch achos da godi arian.

Bydd y loto'n cael ei dynnu bob nos Sadwrn gyda'r canlyniadau'n cael eu rhoi ar ein gwefan, Facebook a Twitter. Bydd yr enillwyr yn cael gwybod yn uniongyrchol, felly os nad oes amser gennych i weld pwy sydd wedi ennill, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Oeddet ti'n gwybod?

Gyda 50 tocyn yr wythnos gallwch chi godi mwy na £1,300 bob blwyddyn.

Hawdd a syml

Nid oes angen argraffu tocynnau na dod o hyd i wobrau.

Beth all cefnogwyr ei ennill?

Nifer sydd wedi paru Gwobr Ods
6 £25,000 1,000,000:1
5 £2,000 55,556:1
4 £250 5,556:1
3 £25 556:1
2 3 thocyn Am Ddim 56:1

Cwestiynau cyffredin

Sut ydw i'n gwybod pa mor dda y mae fy loteri yn gwneud?

Bob wythnos rydym yn anfon cylchlythyr atoch sy'n rhoi'r holl fanylion i chi. Mae'n dweud wrthych faint o gefnogwyr sydd wedi dewis cyfeirio eu cefnogaeth atoch chi, pwy ydyn nhw, faint o docynnau sy'n cael eu gwerthu bob wythnos, faint o arian sydd wedi'i godi ac ati. Mae dangosfwrdd hefyd ar y wefan a fydd yn darparu ystadegau amser real am eich ymgyrch!

Pwy sy'n delio ag unrhyw gwestiynau sydd gan fy nghefnogwyr?

Ni! Mae gennym ni rif penodol i roi cymorth 01597 826000 sy'n delio'n uniongyrchol ag unrhyw ymholiadau y mae'ch cefnogwyr eisiau eu codi, yn ogystal â'n cyfeiriad e-bost [email protected] i roi cymorth.

Sut ydyn ni'n derbyn ein cyfran o werthiannau tocynnau?

Bydd eich cyllid yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc bob mis.