Felly mae’ch tudalen Loto Powys newydd fynd yn fyw ac rydych chi eisiau gwybod beth i’w wneud nesaf? Yna darllenwch ymlaen.

Does gennych chi yr un dudalen Loto Powys? Yna ymgeisiwch am un yma.

Yr allwedd i lwyddiant ydy gwneud yn siŵr bod pawb yn gwybod am eich tudalen Loto Powys. I wneud pethau’n haws, rydyn ni wedi rhoi canllaw fesul cam i farchnata’ch tudalen isod. Cofiwch, os ydy pethau braidd yn araf i ddechrau, peidiwch â phoeni. Yn aml, mae angen i bobl weld eich neges sawl tro cyn y byddan nhw’n gwneud unrhyw beth – felly daliwch ymlaen i floeddio amdano.

Marchnata Fesul Cam

Cam 1: Mynd Ar-lein

Y cam cyntaf i farchnata’ch tudalen Loto Powys yn llwyddiannus ydy sicrhau bod eich dulliau cyfathrebu digidol arferol yn cael cymaint o effaith â phosibl, felly:

  • Dygwch sylw at y loteri ar wefan eich achos a rhoi dolen yn syth i’ch tudalen Loto Powys.
  • Os oes gennych chi ganiatâd, defnyddiwch unrhyw restri e-bost sy’n bodoli i roi gwybod i’ch cymuned am eich tudalen Loto Powys

GAIR I GALL: Cofiwch ddefnyddio’ch PDF digidol, sydd wedi’i lunio’n benodol i chi, bob tro rydych chi’n marchnata ar-lein. Mae yno i arbed amser ichi.

Cam 2: Argraffu i Lwyddo

Mae’r cam hwn yn galw am farchnata corfforol traddodiadol – mae hyn dal yn gallu bod yn effeithiol. Cymerwch y PDF argraffadwy sydd wedi’i gyflenwi, ei argaffu ac...:

  • Ei atodi at lythyrau at gefnogwyr
  • Gwnewch neges drwy'r post i'r cymuned leol
  • Ei ddosbarthu mewn unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod
  • Ei osod ar unrhyw hysbysfyrddau addas

COFIWCH: Mae’ch cefnogwyr yn gallu dod o unrhyw le yn y DU. Defnyddiwch eich dychymyg ynglŷn â lle y gall darpar gefnogwyr ddod ohono.

Cam 3: Y Cyfryngau Cymdeithasol

Gwnewch fwy na dim ond gofyn am gefnogaeth; rhowch wybod i bobl pam fod angen eu cefnogaeth arnoch chi. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llwyfan gwych ar gyfer a ddau o’r pethau hyn.

  • Os nad oes gennych chi gyfrif Twitter, yna crëwch un a thrydar negeseuon rheolaidd
  • Mae’n hawdd sefydlu tudalen Facebook a chanu clodydd y gwaith da y mae’ch achos yn ei wneud a pham y dylai pobl eich cefnogi

GAIR I GALL: Mae angen bloeddi fwy nag unwaith, mae angen procio pobl sawl tro i’w cael i wneud rhywbeth.

Cam 4: Chwarae’r Gêm Hir!

Mae’n hanfodol manteisio ar lansio’ch tudalen Loto Powys i gael sail cefnogwyr dda – ond mae yna fwy i’w wneud na hynny. Mae adeiladu’ch sail cefnogwyr a’i chadw’n iach yn galw am ymgyrchoedd rheolaidd i ennill cefnogwyr newydd:

  • Rhowch wybod beth rydych chi’n cynilo ar ei gyfer ac unrhyw gerrig milltir allweddol rydych chi eisiau eu cyrraedd (neu rai rydych chi wedi’u cyrraedd)
  • Mae atgyfnerthu’r gwobrau’n cadw pethau’n berthnasol i chwaraewyr sy’n bodoli ac i ddarpar chwaraewyr
  • Mae angen adnabod cyfleoedd i sicrhau cefnogwyr newydd

GAIR I GALL: Cynlluniwch eich ymgyrch farchnata ymlaen llaw er mwyn taro ar yr amseroedd allweddol o’r flwyddyn.

Rydych Chi’n Barod i Ddechrau Marchnata

Os y byddwch chi’n dilyn y camau hyn rydych chi ar eich ffordd i gael sail cefnogwyr iach. Po fwyaf y tocynnau y mae’ch cefnogwyr yn eu prynu, mwyaf oll o arian rydych chi’n ei godi

Pob lwc!