Ychwanegwch ni at y rhestr anfonwyr diogel
I wneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn ein neges e-bost mae angen ichi ychwanegu [email protected] at eich rhestr o anfonwyr diogel.
Os byddwch chi’n dod o hyd i’n negeseuon e-bost yn y ffolderi Sothach neu Sbam, cofiwch ddweud wrth eich cleient e-bost nad yw hwn yn Sothach neu’n Sbam. Dylai hyn symud yr e-bost i’r Mewnflwch a helpu i addysgu’ch cleient e-bost i beidio â marcio’r negeseuon e-bost hynny fel sothach/sbam yn y dyfodol.
Dyma gyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ychwanegu ein cyfeiriad e-bost at y rhestr anfonwyr diogel ar gyfer y cleientiaid e-bost mwyaf cyffredin:
- AOL
- Gmail
- Yahoo
- Windows Live Hotmail
- Outlook.com
- Microsoft Outlook 2003
- Outlook 2007
- Outlook 2010 a 2013
- Apple Mail
- Ipad, Iphone neu Ipod Touch
- Dyfeisiau Android - Samsung, Google Nexus ac eraill
AOL
- Cliciwch Contacts yn y bar offer ar y dde
- Cliciwch Add Contact
- Nodwch Loto Powys a gwybodaeth ychwanegol os ydych chi eisiau gwneud hynny
- Cliciwch y botwm Add Contact yn y naidlen i orffen
Gmail
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Cliciwch ar y saeth drionglog fach sy’n pwyntio ar i lawr nesaf at reply
- Cliciwch Add Loto Powys at y rhestr o gysylltiadau i orffen
Yahoo
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Cliciwch Add to contacts nesaf at Loto Powys.
- Ar y naidlen Add Contact, ychwanegwch wybodaeth ychwanegol os oes angen.
- Cliciwch Save i orffen
Windows Live Hotmail
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Cliciwch Add to contacts nesaf at enw’r anfonwr (Loto Powys) i orffen
Outlook.com
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Cliciwch Add to contacts nesaf at enw’r anfonwr (Loto Powys) i orffen
Microsoft Outlook 2003
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- De-gliciwch Click here i lawrlwytho delweddau yn y bar llwyd ar frig y neges
- Cliciwch Add Sender to Senders Safe List i orffen
Outlook 2007
- De-gliciwch ar yr e-bost rydych chi wedi’i dderbyn (yn y rhestr o negeseuon e-bost)
- Cliciwch Junk E-mail
- Cliciwch Add Sender to Safe Senders List i orffen
Outlook 2010 a 2013
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Cliciwch ar ddewislen Home
- Cliciwch Junk > Never Block Sender
Apple Mail
- De-gliciwch ar yr e-bost rydych chi wedi’i dderbyn (yn y rhestr o negeseuon e-bost)
- Cliciwch Add to Address Book
Ipad, Iphone neu Ipod Touch
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Tapiwch yr anfonwr a’i ychwanegu at naill ai cyswllt newydd neu gyswllt presennol
Dyfeisiau Android - Samsung, Google Nexus ac eraill
- Agorwch e-bost oddi wrth yr anfonwr rydych chi eisiau ei ychwanegu at y rhestr o anfonwyr diogel
- Tapiwch y llun o’r anfonwr
- Tapiwch OK i ychwanegu cysylltiadau