Ymwadiad

Mae Loto Powys yn ddiwyd wrth sicrhau mai’r wybodaeth fwyaf manwl gywir a dibynadwy ar gael yw’r wybodaeth ar y wefan hon. Fodd bynnag, nid ydym ni’n gwarantu manwl gywirdeb unrhyw wybodaeth ar y wefan hon neu a gyrchir trwyddi.

Ni allwn dderbyn atebolrwydd am unrhyw golled neu niwed gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, unrhyw golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol neu golledion eraill waeth beth fo’u natur yn codi yn sgil defnyddio’r wefan hon neu ei chynnwys, neu sy’n berthnasol i hyn.

Gwneir pob ymdrech i gadw’r wefan ar waith lawn. Fodd bynnag nid yw Gatherwell Ltd yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am adegau pan na fydd y wefan ar gael dros dro oherwydd materion technegol y tu hwnt i’n rheolaeth, ac ni fydd yn atebol am hyn.

Trwy’r wefan hon rydych chi’n gallu mynd i wefannau eraill nad oes gan Gatherwell Ltd reolaeth arnyn nhw. Nid oes gennym ni reolaeth ar natur, cynnwys ac argaeledd y gwefannau hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni o reidrwydd yn golygu ein bod ni’n argymell neu’n cymeradwyo’r farn a fynegir ynddyn nhw.

Dylid nodi nad oes unrhyw gysylltiad o gwbl rhwng Loto Powys, fel y’i gweithredir gan Gatherwell Ltd, a Camelot Group plc - y Loteri Genedlaethol (Lotto), y Loteri Iechyd neu Loteri Cod Post y Bobl.

Hysbysiadau Hawlfraint

Ni cheir ailgyhoeddi, atgynhyrchu, lawrlwytho, arddangos, dosbarthu, postio, trawsyrru na gwerthu unrhyw ran o’r wefan hon ar unrhyw ffurf neu drwy unrhyw fodd yn gyfan neu’n rhannol heb ein caniatâd ymlaen llaw. Ni chaiff defnyddwyr y wefan hon atgynhyrchu nac ailddefnyddio unrhyw agwedd ar gynnwys y wefan, at unrhyw ddiben masnachol o gwbl.

Mae’r holl waith graffig ar y wefan hon yn eiddo i Gatherwell Ltd ac ni cheir ei gopïo na’i atgynhyrchu mewn unrhyw ffordd heb gydsyniad ymlaen llaw.

Chwarae’n Gyfrifol

Mae Loto Powys yn gwneud pob ymdrech i ymddwyn mewn modd sy’n gymdeithasol gyfrifol. Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un dan 18 oed chwarae Loto Powys ac mae gennym ni fesurau ar waith i sicrhau ein bod ni’n gwneud ein gorau glas i reoli chwarae dan oed. Mae Loto Powys yn ddull cymhellol o gefnogi achosion da. Fodd bynnag, cyn ymuno ag unrhyw gynllun sy’n galw am wario ar hap, fe’ch cynghorir i gofio’r canlynol:

  • Peidiwch ac ystyried gamblo’n ffordd o wneud arian
  • Wrth gamblo defnyddiwch arian y gallwch chi fforddio’i golli yn unig
  • Gosodwch derfyn ariannol ymlaen llaw
  • Peidiwch byth â gamblo mwy i geisio ennill arian rydych chi wedi’i golli yn ôl
  • Peidiwch â gamblo pan rydych chi’n isel eich ysbryd neu’n ofidus
  • Gwnewch yn siŵr bod gamblo wedi’i gydbwyso â gweithgareddau eraill

Os ydych chi’n meddwl ei bod hi’n bosibl bod gennych chi broblem â gamblo, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Gamblo Genedlaethol yn gyfrinachol ar 0808 8020 133. Neu gallwch chi fynd i wefan Gamble Aware yn www.begambleaware.org neu wefan GamCare yn www.gamcare.org.uk.

Polisi Hunan-allgáu

Rydyn ni’n cynnig cyfleuster Hunan-allgáu yn benodol i’r cwsmeriaid hynny y mae gamblo wedi dod yn broblem ddifrifol iddyn nhw ac sydd eisiau cyfyngu ar eu gamblo â Loto Powys.

Trwy lunio cytundeb Hunan-allgáu â Loto Powys, byddwch chi’n cael eich atal rhag defnyddio’ch cyfrif am gyfnod o 6 mis, o leiaf, hyd at 5 mlynedd (gyda’r opsiwn i ymestyn hyn os ydych chi eisiau gwneud hynny). Byddwn ni’n cau’ch cyfrif ac yn dychwelyd unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio ac sy’n cael ei ddal yn eich enw.

Yn ystod y cyfnod hwn o hunan-allgáu ni fydd Loto Powys yn anfon unrhyw negeseuon hybu a byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn i atal cyfrifon newydd rhag cael eu hagor. Pan ddaw’r cyfnod allgáu i ben, ni fyddwn ni’n cysylltu â chi i ofyn a hoffech chi adfer eich cyfrif.

Er mwyn hwyluso gamblo eto, ar ôl y cyfnod allgáu, bydd angen ichi gysylltu â’r tîm cymorth ar 01597 826000 i ddechrau’r broses o ddatgloi’ch cyfrif. Bydd yna gyfnod 24 awr i ailfeddwl, a phan ddaw’r cyfnod hwn i ben caiff eich cyfrif ei ddatgloi.

Os ydych chi eisiau bwrw ymlaen â’n Cytundeb Hunan-allgáu, yna cysylltwch â’r tîm cymorth trwy naill ai ffonio 01597 826000 neu anfon e-bost i [email protected] yn cadarnhau’r manylion a ganlyn:

  • Rhif eich cyfrif/ enw defnyddiwr a/neu’ch cyfeiriad e-bost
  • Eich Enw Llawn
  • Eich Dyddiad Geni
  • Rhowch y teitl – HUNAN-ALLGÁU – i’ch e-bost

Beth yw Cwcis?

Ffeiliau testun bach iawn ydy cwcis, ac maen nhw’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur pan rydych chi’n mynd i rai gwefannau.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis i helpu i adnabod eich cyfrifiadur fel ein bod ni’n gallu llunio’ch profiad defnyddiwr yn benodol i chi, olrhain cynnwys basgedi siopa a chofio lle rydych chi yn y broses archebu.

Gallwch chi analluogi unrhyw gwcis sydd eisoes wedi’u storio ar eich cyfrifiadur, ond mae’n bosibl y bydd hyn yn atal ein gwefan rhag gweithio’n iawn.

Sut ydyn ni'n defnyddio Cwcis?

Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i olrhain sut mae defnyddwyr yn llywio drwyddi. Mae hyn yn ein helpu i werthuso a gwella ein gwefan a'n gwasanaethau ar-lein.

Maent yn galluogi ein system i adnabod eich porwr a chynnal eich manylion prynu yn eich basged siopa. Maent hefyd yn ein galluogi i olrhain defnyddwyr ar draws sesiynau lluosog at ddibenion dadansoddol.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr Rhyngrwyd wedi'u rhagosod i dderbyn cwcis. Os yw'n well gennych beidio â'u derbyn, gallwch addasu eich porwr i'w hanalluogi neu i'ch rhybuddio pan gânt eu defnyddio. Gan fod llawer o borwyr yn y farchnad, y ffordd hawsaf o newid eich gosodiadau yw trwy chwilio am 'cwcis' yn yr opsiynau Cymorth/Cynnwys a Mynegai ar eich porwr. Ni allwn gynnig cyngor technegol ar sut i wneud hyn.

Gall diffodd rhai cwcis amharu ar weithrediad gwefan a’u gwneud yn llai cyfleus i’r defnyddiwr. Rydym yn argymell eich bod yn gadael eich cwcis wedi'u galluogi; fel arall, efallai y byddwch yn cael anhawster i brynu cofnodion loteri gyda ni.

Nid yw ein cwcis yn anfon unrhyw wybodaeth yn ôl atom am eich cyfrifiadur (ac eithrio eich cyfeiriad IP) ac nid ydynt yn casglu gwybodaeth am safleoedd blaenorol yr ymwelwyd â nhw neu gyrchfan wrth adael.

Rydym yn deillio gwybodaeth o Cwcis fel:

Cwcis Swyddogaethol

  • Hwyluso gallu defnyddwyr i lywio drwy'r wefan.
  • Canfod a yw'r wefan yn gweithredu'n effeithiol.
  • Rydym hefyd yn defnyddio technoleg cwci gyda’n ffurflenni cofrestru ar-lein i sicrhau ein bod yn cynnal eich cyfrinachedd a’ch diogelwch wrth i chi symud drwy rannau diogel o’r wefan sydd wedi’u diogelu gan gyfrinair.

Cwcis Anweithredol

  • Personoli a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei gynnig i chi trwy ddeall eich dewisiadau a sefydlu pa feysydd o'r wefan sydd fwyaf perthnasol i chi.
  • Casglu ystadegau ar sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio, a all ein helpu i wella ein gwefan a gwasanaethau ar-lein.

Rheoli Cwcis

Yn eich porwr gwe gallwch reoli pa fathau o gwcis yr ydych yn eu caniatáu. Gallwch droi cwcis ymlaen neu i ffwrdd gan ddefnyddio gosodiadau eich porwr. Gallwch hefyd ddileu cwcis a chlirio storfa (hanes) eich porwr.

Trwy analluogi Cwcis Anweithredol, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn rhai o'r nodweddion a gynigir gennym ni.

Gallwch hefyd optio allan o gwcis anweithredol isod:

Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r Polisi Cwcis hwn o bryd i’w gilydd a bydd unrhyw ddiweddariadau’n cael eu postio ar y wefan hon.