Mae Loto Powys yn ffordd ddifyr ac effeithiol i’ch achos da godi arian. Mae’n hawdd ymuno ac mae’n RHAD AC AM DDIM. Anfonwch eich cefnogwyr i’ch tudalen Loto Powys eich hun a chasglu 50% o bris pob tocyn sy’n cael ei werthu.

Bydd pob cefnogwr yn cael y cyfle i ennill gwobrau gwerth hyd at £25,000 am £1 yr wythnos yn unig. Mae gan bob tocyn gyfle 1 ym mhob 50 o ennill gwobr bob wythnos! Mae hynna’n well na’r Loteri Genedlaewis a’r Loteri Iechyd. Gwelwch fanylion y gwobrau isod:

Nifer sydd wedi paru Gwobr Ods
6 £25,000 1,000,000:1
5 £2,000 55,556:1
4 £250 5,556:1
3 £25 556:1
2 3 thocyn Am Ddim 56:1

Bydd y digwyddiad tynnu tocynnau'n digwydd bob nos Sadwrn a chaiff y canlyniadau eu cyhoeddi ar ein gwefan, Facebook a Twitter. Bydd enillwyr yn cael gwybod yn uniongyrchol, felly os nad oes gennych chi amser i fynd i weld pwy sydd wedi ennill, byddwn ni’n rhoi gwybod ichi.

Mae cofrestru’n RHAD AC AM DDIM ac mae’n cymryd llai na munud. Unwaith y byddwch chi wedi cofrestru byddwn ni:

  • Yn adeiladu tudalen eich achos da ar wefan Loto Powys.
  • Yn rhoi deunyddiau marchnata sy’n benodol i chi i’w hanfon at eich cefnogwyr a’ch cymuned leol.
  • Yn eich cefnogi â chanllawiau, awgrymiadau, cymorth drwy e-bost a thros y ffôn.

Byddwch chi'n derbyn 50% o bris pob tocyn sy'n cael eu gwerthu i gefnogwyr sy'n cofrestru â'ch tudalen chi. Caiff eich arian ei drosglwyddo i mewn i’ch cyfrif banc bob mis.

Beth ydy’r anfantais?

Does yna’r un anfantais. Dim ffioedd, dim gweinyddiaeth, dim strach. Y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw bloeddio am Loto Powys i’ch cefnogwyr a’ch cymuned.

Ydw i’n cael ymuno?

Mae unrhyw achos da sy'n gweithredu ym Powys yn cael ymgeisio*; defnyddiwch y ddolen isod i gofrestru.

Byddwch chi hefyd yn derbyn:

  • Y wybodaeth ddiweddaraf bob wythnos am gynnydd y loteri ac am y cefnogwyr sydd wedi’ch dewis chi i gyfeirio’u cefnogaeth iddo.
  • Deunyddiau marchnata wedi’u diweddaru’n rheolaeth ac wedi’u llunio’n benodol i chi.
  • Y cyfle i ddefnyddio dangosfwrdd ar-lein fel eich bod chi’n gallu gweld ystadegau mewn amser real am y cefnogwyr sydd wedi dewis cyfeirio’u cefnogaeth i chi.
  • Taliad misol o’ch arian yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, ynghyd ag adroddiad.

* Mae yna rai sefyllfaoedd lle gellir gwahardd; gwelwch y Telerau ac Amodau am fanylion