C: Pa sefydliadau sy'n cael cofrestru?

A: Gall unrhyw achos da sy'n gweithredu ym Mhowys ymgeisio! (DS Mae yna rai sefyllfaoedd lle gellir gwahardd, gwelwch y Telerau ac Amodau am fanylion)


C: Pa wybodaeth y bydd angen i mi ei rhoi i gofrestru?

A: Bydd angen rhai darnau allweddol o wybodaeth i'ch cofrestru fel achos da yn Loto Powys. Bydd hyn yn cynnwys enw'ch sefydliad, cyswllt allweddol a'i rôl, cyfeiriad, rhif ffôn ac e-bost. Yna bydd angen ichi gadarnhau eich bod chi'n gymwys (gwelwch y cwestiwn uchod).

Er mwyn talu'ch arian ichi, bydd angen manylion eich banc a bydd angen ichi hefyd ddarparu logo ar gyfer eich sefydliad i'w gynnwys ar y deunyddiau marchnata y byddwn ni'n eu creu yn benodol i chi. Gallwch chi ddarparu'r rhain wrth gofrestru, ond nid oes yn rhaid ichi eu rhoi i gael eich cofrestru. Cofiwch ddweud wrthym ni os y bydd unrhyw fanylion yn newid.


C: Pa fath o logo sydd ei angen arna' i?

A: Gallwn ni dderbyn logos yn y mwyafrif o fformatau ffeiliau (.png, .jpg, .gif ac ati)

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi un; byddwn ni'n creu logo ar eich cyfer i'w ddefnyddio ar y dechrau a byddwch chi'n gallu ei newid ef ac unrhyw fanylion eraill unrhyw bryd.


C: Pa ddeunyddiau ydych chi'n eu darparu i'm helpu i hybu fy loteri?

A: Rydyn ni'n darparu deunyddiau cyfathrebu wedi'u llunio'n benodol i'ch achos da chi. PDFs wedi'u paratoi'n broffesiynol fydd y rhain, a bydd modd eu hatodi at negeseuon e-bost rydych chi'n eu hanfon at eich cymuned. Mae'n bosibl hefyd argraffu ein deunyddiau a'u postio o amgylch yr ardal leol. Rydyn ni hefyd yn rhoi'ch tudalennau gwe'ch hunain ichi ar wefan www.powyslotto.com er mwyn i'ch cefnogwyr allu cofrestru, gwirio canlyniadau a gweld faint o arian sy'n cael ei godi.


C: Sut y mae enillwyr yn cael gwybod eu bod wedi ennill?

A: Bob wythnos, bydd pob enillydd yn cael gwybod trwy e-bost. Caiff y rhif buddugol hefyd ei gyhoeddi ar ein gwefan, Facebook a Twitter bob wythnos ar ôl y digwyddiad tynnu tocynnau.


C: Sut ydyn ni derbyn ein cyfran ni o brisiau'r tocynnau sy'n cael eu gwerthu?

A: Caiff eich arian ei drosglwyddo'n uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif banc bob mis.


C: Sut ydw i'n gwybod sut hwyl rydw i'n ei chael ar godi arian?

A: Bob wythnos, byddwn ni'n anfon cylchlythyr atoch chi sy'n rhoi'r holl fanylion ichi. Mae'n dweud wrthych chi faint o gefnogwyr sydd wedi dewis cyfeirio'u cefnogaeth i chi, pwy ydyn nhw, faint o docynnau sy'n cael eu gwerthu bob wythnos, faint o arian sydd wedi'i godi ac ati. Mae yna hefyd ddangosfwrdd ar y wefan a fydd yn rhoi ystadegau mewn amser real am eich ymgyrch!


C: Pwy sy'n delio ag unrhyw gwestiynau y mae fy nghefnogwyr eisiau eu codi?

A: Y ni! Mae gennym ni rif penodol i roi cymorth (01597 826000) sy'n delio'n uniongyrchol ag unrhyw ymholiadau y mae'ch cefnogwyr eisiau eu codi, yn ogystal â'n cyfeiriad e-bost ([email protected]) i roi cymorth.


C: Ydy rhywun yn gallu chwarae os nad ydyn nhw ar-lein?

A: Ydyn. Mae chwaraewyr yn gallu ffonio rhif penodol Loto Powys – (01597 826000) – i gofrestru a threfnu taliadau.


C: Pa weinyddu sydd angen i ni ei wneud?

A: Dim! Y cyfan y mae angen i chi ei wneud ydy bloeddio am eich tudalen Loto Powys!


C: Os ydy fy achos da i'n cael 50c am bob tocyn sy'n cael ei werthu, ble mae'r 50c arall yn mynd?

A: Mae 10c yn cael ei ddefnyddio i gefnogi achosion da eraill ym Powys. Mae 20c yn mynd i wobrau ac mae'r 20c sy'n weddill ar gyfer gweinyddu'r loteri a TAW.

Siart cylch dyrannu tocynnau

C: Mae fy achos da bellach yn fyw. Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

A: Mae gennym lawer o awgrymiadau i'ch helpu chi i ddechrau codi arian gyda Loto Powys ar ein dechrau arni.


C: Ydy cefnogwyr yn cael defnyddio Rhodd Cymorth ar bris y tocyn?

A: Yn anffodus, ni allwch chi hawlio Rhodd Cymorth at docynnau loteri sy'n cael eu prynu.