Telerau ac Amodau – Achosion Da
Rydyn ni eisiau galluogi cynifer o sefydliadau â phosibl i ymuno â'r loteri. Gan y byddwch chi'n ymuno dan ein trwydded gamblo gyffredinol (Deddf Gamblo 2005) mae'n rhaid i ni sicrhau bod sefydliadau'n bodloni rhai meini prawf penodol. Ni chodir unrhyw ffi am ymgeisio.
Rhaid i'ch sefydliad:
- Fod yn darparu gweithgareddau neu wasanaethau cymunedol o fewn Powys, sydd o fudd i drigolion Powys
- Bod â chyfansoddiad ffurfiol neu set o reolau
- Bod â chyfrif banc sydd ag o leiaf dau o lofnodwyr diberthynas
- Gweithredu heb unrhyw gyfyngiadau afraid ar aelodaeth
A bod naill ai:
- Yn grŵp cyfansoddiadol gyda phwyllgor rheoli gwirfoddol sydd ag o leiaf tri aelod diberthynas sy'n cyfarfod yn rheolaidd (o leiaf deirgwaith y flwyddyn)
- Yn elusen gofrestredig, gyda bwrdd o ymddiriedolwyr
Neu:
- Yn Gwmni Buddiannau Cymunedol cofrestredig, ac yn darparu copïau o'ch Datganiad Buddiannau Cymunedol, manylion y Clo Asedau sydd wedi'i gynnwys yn eich Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithas, a chopi o'ch adroddiad buddiannau cymunedol blynyddol diweddaraf
Bydd gofyn ichi ymrwymo i ddefnyddio'r deunyddiau marchnata a ddarperir a dulliau cyfathrebu eraill i sicrhau bod o leiaf 20 o docynnau'n cael eu gwerthu o fewn pedair wythnos o gael tudalen ar y wefan.
Ni fyddwn ni'n caniatáu ceisiadau oddi wrth:
- Grwpiau sy'n hybu gweithgarwch crefyddol, ffydd neu gredo gwleidyddol
- Ymgyrch nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gweithgareddau neu wasanaethau cymunedol o fewn Powys
- Sefydliadau nad ydyn nhw'n gweithio o fewn ffiniau Powys
- Unigolion
- Sefydliadau sydd â nod o ddosbarthu elw
- Sefydliadau heb unrhyw bwyllgor rheoli/bwrdd ymddiriedolwyr sefydledig (heblaw am gwmnïau buddiannau cymunedol)
Ni allwn ni dderbyn ychwaith geisiadau sy'n anghyflawn
Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i wrthod unrhyw gais am unrhyw reswm heb gynnig proses apelio.
Bydd y cyngor yn cadw ei hawliau i beidio â derbyn neu i roi'r gorau i drwyddedu unrhyw sefydliad gyda rhybudd o 7 diwrnod o leiaf am unrhyw reswm. Os amheuir bod yna weithgaredd twyllodrus neu anghyfreithlon, daw'r drwydded i ben ar unwaith.
Ar ôl eich cymeradwyo ar y platfform, byddwch yn derbyn:
- Eich tudalen we eich hun ar wefan Loto Powys - heb unrhyw ffioedd sefydlu. Gallwch olygu eich logo a'ch disgrifiad
- Byddwch yn cael 50p o bob tocyn taledig sy'n cefnogi'ch achos sy'n cael ei roi mewn raffl wythnosol
- Taliad misol o'r arian rydych wedi'i godi trwy Loto Powys - heb unrhyw ffioedd bancio
- Dangosfwrdd ar-lein i olrhain perfformiad eich tudalen loteri
- Llinell gymorth loteri i helpu'ch chwaraewyr gydag unrhyw ymholiadau sydd ganddyn nhw
- Deunyddiau marchnata tymhorol wedi'u paratoi'n broffesiynol a ddarperir yn ddigidol mewn amrywiaeth o fformatau