Chwarae’r loteri

Loteri wythnosol gyffrous sy'n codi arian ar gyfer achosion da ym Powys ydy Loto Powys. Bydd pob achos da y mae'r loteri'n ei gefnogi o fudd i Powys a'i thrigolion.

Chwaraewch y loteri i gefnogi Powys – mae hi mor syml â hynny!

Dim ond £1 yr wythnos y mae tocynnau'n costio ar gyfer y loteri. Mae gan bob tocyn gyfle 1 ym mhob 50 i ennill gwobr bob wythnos, gyda gwobr uchaf o £25,000! Mae hynna'n well cyfle o ennill na'r Loteri Genedlaethol neu'r Loteri Iechyd!

Bydd pob tocyn yn cynnwys chwech rhif a bydd pob rhif rhwng 0 a 9. Bydd y tocynnau'n cael eu tynnu bob nos Sadwrn pan fydd cyfuniad o chwech digid buddugol yn cael eu tynnu. Bydd chwaraewyr â thocynnau sy'n cyfateb i'r 2-6 rhif cyntaf neu olaf o'r cyfuniad buddugol yn cael gwobrau. Os y bydd y tocyn yn cyfateb i bob un o'r chwech, byddwch chi'n ennill y JACPOT!

Ceir rhestr lawn o'r gwobrau isod:

Nifer sydd wedi paru Gwobr Ods
6 £25,000 1,000,000:1
5 £2,000 55,556:1
4 £250 5,556:1
3 £25 556:1
2 3 thocyn Am Ddim 56:1

Eich achosion da lleol

Y loteri a'i gwobrau ydy ein ffordd ni o'i gwneud hi'n hwyl codi arian. Yr achosion da sydd wir ar eu hennill. O bob tocyn £1 sy'n cael ei werthu, bydd 60c yn mynd i achosion da ym Powys! I roi hyn yn ei wir oleuni, pan rydych chi'n chwarae'r Loteri Genedlaethol mae 25% yn mynd i achosion da – rydyn ni wedi mwy na DYBLU canran y tocyn sy'n mynd i achosion da.

Ac yn well fyth, gallwch chi ddewis pa achos da sy'n cael 50c o'r 60c (caiff y 10c sy'n weddill ei ddosbarthu i achosion da eraill).

Siart cylch dyrannu tocynnau

Pob lwc a hwyl fawr!

Rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n ymuno â ni i wneud Powys yn well fyth ac y byddwch chi'n cael rhywfaint o hwyl ar hyd y ffordd!

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, yna cysylltwch â ni.